Mae gwirodydd Lysh wedi eu gwneud gyda llaw ar fferm y teulu
ym mherfedd Sir Drefaldwyn gan ddefnyddio ffrwythau o berllanoedd
a chloddiau’r fferm. Sefydlwyd y cwmni yn 2004 fel menter
arallgyferio i ddefnyddio’r ffrwythau dros ben . Ar
y fferm mae’r pwyslais ar ansawdd y cynnyrch gyda’r
ffrwythau yn cael eu casglu gyda llaw tra byddant ar eu mwyaf
aeddfed. Mae hyn yn gwneud y gwirodydd yn rhai arbennig iawn.
Ers y dechrau mae cynaladwyedd wedi bod yn nod pwysig gyda’r
holl ffrwythau wedi eu casglu o berllanoedd a chloddiau fferm
Berthfawr. Ar ôl casglu’r ffrwythau a’u
mwydo mewn jin am bedwar mis bydd yr hylif yn cael ei hidlo
ddwywaith ac yna ei arllwys i boteli sgwar prydferth. Bydd
y ffrwythau dros ben yn cael eu plannu er mwyn cael planhigion
drain duon a damson newydd. Mae’r planhigion ifanc wedyn
yn dod yn wrychoedd newydd fel rhan o’r cynllun amaeth-amgylcheddol
Tir Gofal.