 |
 |
|
| |
Ar hyn o bryd mae Gwirodydd Lysh yn cynnyrchu dau fath o wirod,
jin damson bendigedig a gwirod jin eirin duon ac almwnd.
 |
Gwirod jin damson 6cl
Gwirod jin damson 20cl
Gwirod jin damson 50cl
Gwirod jin eirin duon ac almwnd 6cl
Gwirod jin eirin duon ac almwnd 20cl
Gwirod jin eirin duon ac almwnd 50cl |
|
 |
| |

Mae eirin duon, neu ddrain duon bach, Prunus spinosa
yn perthyn o bell i blwmwns. Mae’r llwyni yn tyfu mewn
cloddiau ar draws y wlad, gan ddwyn ffrwythau bychain glasddu
yr un maint a marblis. Pan flasir eirin duon amrwd gwerthfawrogir
pam nad ydynt yn cael eu bwyta yn amrwd gan bobl, gan eu bod
yn hynod asidig ac yn gadael blas sur iawn fydd yn gafael ar
ben y geg. O’u mwydo mewn jin mae’r blas yn cael
ei drawsnewid yn hollol i wirod cyfoethog cynnes sy’n
gadael cic apelgar. Gyda llaw os nad ydych yn hoffi blas jin
peidiwch a gofidio gan fod y blas yn cael ei drawsnewid yn hollol
yn y diod hwn. Mae Gwirod Jin Eirin Duon ac Almwnd Lysh yn gymysgedd
o eirin duon wedi eu casglu’n lleol o lwyni drain duon
y fferm, siwgwr ac ychydig lleiaf o “almond essence”.
Ar ol eu gadael i stwytho am bedwar mis mae’r eirin duon
yn rhoi lliw coch cyfoethog yn y jin ac yn trawsnewid y blas
i wirod blasus.

Mae’r damswn, Prunus insititia yn fath o blwmwn
sydd ychydig yn llai na phlymsen cyffredin ond ddim cweit
mor grwn. Blynyddoedd yn ôl roedd y rhan fwyaf o ffermydd
Sir Drefaldwyn gyda pherllanoedd yn llawn o goed damson ond
yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae llai a llai o’r
coed yma i’w gweld o gwmpas, o bosib oherwydd fod y
coed yn rhai lled feddal ac felly’n cael eu colli mewn
cyfnodau gwyntog. Mae llawer o berllanoedd hefyd heb reolaeth
digonol arnynt gyda’r coed yn cael eu gadael i dyfu’n
dal heb eu tocio gan eu gwneud yn fwy tebygol o ddal y gwynt.
Yn ystod y gwanwyn mae’r coed damson gyda blodau gwynion
persawrys ond mae rhew cynnar yn medru lladd y blodau gan
olygu nad oes ffrwythau ar y coed, mae’n anodd felly
darogan faint o ffrwythau fydd ar gael yn ystod yr hydref.
Mae Gwirod Jin Damson Lysh yn gyfuniad o jin, damsons a siwgwr
wedi eu gadael i stwytho mewn jariau ‘demijohn’
am bedwar mis. Ar ôl y cyfnod hynny bydd y gwirod wedi
datblygu lliw cyfoethog rhyddcoch a bydd yn cael ei hidlo
i boteli yn barod i’w yfed.
|
|